Pennaeth: Rhodri Jones
Address:
Heol y Coleg Y Barri Bro Morgannwg
CF62 8HQ
Ffon: 01446 744222
Email: Email the School
Gwefan: ysgolgymraegsantcurig.com
Category: Primary

Ysgol Gymraeg Sant Curig
Tyfwn Ar Ein Taith’ (We Grow On Our Journey)
Rhown gyfle i bawb:
- I lwyddo mewn awyrgylch hapus a diogel
- I wireddu’r freuddwyd o Gymry dwyieithog.
Croeso i Ysgol Gymraeg Sant Curig! Lleolir yr ysgol ynghanol tref Y Barri ym Mro Morgannwg. Rydym yn ysgol hapus a chroesawgar sydd a’i chalon yn y gymuned. Datblygwn ein disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol, galluog, hyderus a’n ddinasyddion fyd eang.
Rydym yn ymfalchio yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn drwy’r ysgol. Ac yn yr un modd, rydym hefyd yn ymfalchio yn yr awyrgylch gyfeillgar a gofalgar sydd bob amser i’w weld. Mae Lles disgyblion yn ganolbwynt i bob peth da sy’n digwydd yma yn Sant Curig.
Mae llawer o ymwelwyr i’r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi pob disgybl ac yn credu y dylai eu hamser yn yr Ysgol fod yn werthfawr ac yn fythgofiadwy.