Pennaeth: Helen Scully
Address:
Ham Lane East Llanilltud Fawr Bro Morgannwg
CF61 1TQ
Ffon: 01446 724461
Email: Email the School
Gwefan: ysgolgymraegdewisant.co.uk
Category: Primary

Ysgol Gymraeg Dewi Sant
Croeso i Ysgol Gymraeg Dewi Sant!
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant yn ysgol gynradd sydd wedi'i lleoli yn nhref Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg. Darparwn addysg ddwyieithog i blant y dref ac i’r ardal gyfagos.
Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2011 ac rydym bellach wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol wrth i'r ysgol dyfu. Ers Medi 2015 rydym wedi ymgartrefu yn ein hysgol newydd a bellach mae dros 200 o blant yn mynychu ein hysgol. Ar safle’r ysgol y mae Cylch Meithrin Llanilltud Fawr sydd wedi ei ymgartrefu i’w adeilad newydd ers mis Mawrth 2022.
Mae ein harwyddair "Tyfu a Llwyddo Gyda'n Gilydd" yn pwysleisio'r elfen o gydweithio ac mae hyn yn ganolig at ethos ac athroniaeth yr ysgol. Mae'n hollol bwysig felly ein bod yn cyfathrebu'n gyson ac yn effeithiol gyda'n gilydd er lles ein plant. O bryd i'w gilydd efallai fydd gennych ofidiau neu gwestiynau, felly peidiwch â bod ofn cysylltu â ni. Yn y cyfamser, rwy'n gobeithio y gwnewch ddefnydd cyson o'r wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i ymfalchïo yng ngweithgareddau a llwyddiannau'r ysgol.
Gweledigaeth yr Ysgol
Yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn sylfaen gadarn i’r addysgu a phrofiadau a gynigwn i’n ddysgwyr.
Magwn ddysgwyr hapus, uchelgeisiol a hyderus o fewn awyrgylch ddiogel a chefnogol. Rydym am sicrhau fod pob plentyn yn teimlo fod gwerth iddo a chariad ato.
Sicrhawn brofiadau ac awyrgylch lle bydd ein disgyblion yn dysgu a thyfu, yn datblygu eu chwilfrydedd a’u hannibyniaeth.
Byddwn yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a chyfoethog. Mi fydd hyn yn galluogi ein disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a galluog sy’n barod i fyw bywyd cyflawn. Ein bwriad yw sicrhau sgiliau a chyfleoedd er mwyn paratoi ein disgyblion i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Datblygwn ddysgwyr gofalgar sy’n dangos parch ac empathi at eraill a’r byd o’u hamgylch. Dathlwn ein Cymreictod ac ymfalchïwn yn ein hiaith, hanes a diwylliant.
Mrs H Scully
Pennaeth / Headteacher